Rhagluniaeth Ysgafn Songtext

O dyro i mi Ragluniaeth Ysgafn Rhagluniaeth ysgafn Rhagluniaeth ysgafn Mor ysgafn a'r awel fwyn A phan ddaw'r amser i gael fy marnu O! Cym i ystyriaeth fy nghyfraniad i'r achosion da, Ac er yr holl deithio, Y llwgr-wobrwyo, Y cyffuriau caled, Y merched o bedwar ban Dw i wedi hen flino Ar fy mhwdr areithio, Yr holl ddanteithio, Fy mrad o iaith y nef, Y rhegi cyhoeddus, Y lluniau anweddus, Fy nghabledd o flaen y groes, Yr hunan-dosturi, Y cwrw a'r miri, Fy ofer-ymffrostio, Tra'n rhostio yn y gwledydd poeth. A phan ddaw'r cyfweliad, Erfynaf am fynediad, Drwy lidiart y nefoedd I'r cyfoeth ar yr ochr draw.A chym i ystyriaeth, Er gwaethaf fy mhechodau, Fy holl rinweddau, Sy'n rhifo ar un llaw. Ond beth bynnag dy farn, Erfynaf am: Ragluniaeth ysgafn, Rhagluniaeth ysgafn Rhagluniaeth ysgafn Mor ysgafn a phluen dryw

Rhagluniaeth Ysgafn Video

Rhagluniaeth Ysgafn Video play
This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website. Closing this message or scrolling the page you will allow us to use it. Learn more