Caerffosiaeth Songtext

Adeiladau mileniwm, Mewn ffug alminiwm, Goruwch-ystafelloedd Am hanner miliwn o bunnoedd. Tyfwn adenydd Tra'n yfed Ymennydd, Mewn tafarndai thema A dim golwg o'r Wyddfa Dw i'n byw a bod Dw i'n byw a bod Arnofio yn y bae Yn y baw a'r dod Coffi ewynnol, Cyflog derbyniol, Argae uffernol, Sgidiau ffasiynol, Saeri Rhyddion Yn rhedeg byrddion, Cyhoeddus, anweddus, Sefyllfa druenus. Dw i'n byw a bod, Dw i'n byw a bod, Arnofio yn y bae Yn y baw a'r dod Dw i'n rhan o'r atal genhedlaeth, Ymfudwn o amaeth, O gefn gwlad i Gaerffosiaeth, O gefn gwlad i Gaerffosiaeth Dw i'n byw a bod, Dw i'n byw a bod, Arnofio yn y bae,Yn y baw a'r dod
This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website. Closing this message or scrolling the page you will allow us to use it. Learn more