Three Welsh Bird Songs: Mae Hiraeth Yn Y Môr Songtext

Mae hiraeth yn y mor a'r mynydd maith
Mae hiraeth mewn distawrwydd ac mewn can
Mewn murmur dyfroedd ar dragwydd daith
Yn oriau'r machlud ac yn fflamau'r tan
Ond mwynaf yn y gwynt y dwed ei gwyn
A thristaf yn yr hesg y cwyna'r gwynt
Gan ddeffro adlais adlais yn y brwyn,
Ac yn y galon, atgof atgof gynt

Fel pan wrandawer yn y cyfddydd hir
Ar gan y ceiliog yn y glwyd gerlaw:
Yn deffro caniad ar ol caniad clir
O'r gerddi agos, nes o'r llechwedd draw
Y cwyd un olaf ei leferydd ef
A mwynder trist y pelter yn ei lef

Three Welsh Bird Songs: Mae Hiraeth Yn Y Môr Video

Three Welsh Bird Songs: Mae Hiraeth Yn Y Môr Video play
This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website. Closing this message or scrolling the page you will allow us to use it. Learn more