Subbuteo Songtext

Ar flaen ei fys y mae, yr awydd mwya am y cyffyrddiad perffaith
Ar flaen ei fys y mae, yr unig ymgais yr un uchelgais

Ar flaen dy fys y mae, gofal, llwyddiant, y wefr, a'i haeddiant
Ar flaen dy fys y mae, breuddwyd arall ar fin troi'n fethiant


A nes di fethu'r haul a methu'r haf
Nes di fethu hyn a methu'r llall
A ti'n methu'r pwynt ac yn methu dallt
Sut nes di fethu dy gyfla, dwi'n methu dy ddallt


Ar flaen dy fys yr oedd, y cyfle gorau i newid dy fyd yn llwyr
Ar flaen dy fys yr oedd, dy feddwl mwya ar chwara gem ddibwys


A nes di fethu'r haul a methu'r haf
Nes di fethu hyn a methu'r llall
A ti'n methu'r pwynt ac yn methu dallt
Sut nes di fethu dy gyfla, dwi'n methu dy ddallt


A ti'n methu'r cwmni
Ti'n methu cysgu
Ti'n methu dal arni
A methu cyfarthrebu
A dwi'n methu dy ddallt di, methu dy ddallt di ...
Methu, methu, methu ...


A nes di fethu'r haul a methu'r haf
Nes di fethu hyn a methu'r llall
A ti'n methu'r pwynt ac yn methu dallt
Sut nes di fethu dy gyfla, dwi'n methu dallt


A ti'n methu'r cwmni
Ti'n methu cysgu
Ti'n methu dal arni
A methu cyfarthrebu
A dwi'n methu dy ddallt di, methu dy ddallt,
Sut nes di fethu dy gyfla, dwi'n methu dy ddallt!
This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website. Closing this message or scrolling the page you will allow us to use it. Learn more